(eBook version: First ever volume of the poetry of the young Welsh poet Gwenffrwd (Thomas Lloyd Jones; 1810-1834) who died in Alabama aged just 23)
"Fel hyn," ymsoniwn, "O! mor ynfyd
Rhed ein serch ar bethau byd,
Tra yn byw yn hardd a hyfryd,
 gwên siriol llwydd ynghyd
Ond pan hulio nos o gystudd
Dros ein llwybrau cnawdol cu,
Pan na fedd daear un llawenydd,
Trown ein trem i'r nefoedd fry."
Brodor o Sir y Fflint, bu farw'r bardd Gwenffrwd, sef Thomas Lloyd Jones (1810-1834) yn alltud yn ninas Mobile, Alabama, o'r dwymyn felen pan nad oedd ond yn dair ar hugain oed.
Gadawodd ryw hanner cant o gerddi ar ei ôl, sydd wedi eu casglu ynghyd yn y gyfrol hon. Er mor ifanc oedd pan fu farw roedd yn fardd wrth anian a ystyrid yn athrylith gan ei gyfoeswyr. Roedd arno eisiau ysgogi chwyldro mewn barddoniaeth Gymraeg. Arloeswr yn y mesurau rhydd, roedd yn un o'r beirdd cyntaf i ysgrifennu Soned yn Gymraeg.
Mae ei gerddi yn trafod testunau megis byrhoedledd bywyd a grym dychymyg dyn, a gwelir ynddynt faenffrwyth y traddodiad telynegol a ddatblygodd yn nwylo beirdd diweddarach. Dyma'r cyhoeddiad cyntaf erioed o gyfrol gyflawn o'i farddoniaeth.